world : Môn: Etholaeth sy'n ynys ddaearyddol a gwleidyddol

Thursday 13 June 2024 08:45 AM

Nafeza 2 world - Disgrifiad,

Gareth Wyn Williams

BBC Cymru

Yn ogystal â bod yn ynys ddaearyddol mae Môn hefyd â thuedd i fod yn ynysig ei natur yn wleidyddol.

Mae gan yr etholaeth hanes o dorri ei chwys ei hun a dyw hi ddim wastad yn dilyn tueddiadau etholiadol.

Ond fel y rhan fwyaf o seddi'r gogledd fe olchwyd Môn gan y don las Geidwadol yn 2019.

Gyda'r dair prif blaid yng Nghymru wedi cynrychioli’r eholaeth yn San Steffan yn ystod y chwarter canrif diwetha', maen nhw i gyd yn teimlo bod siawns gwirioneddol o'i hennill y tro yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cob ym Malltraeth wedi amddiffyn rhannau o dde Môn ers ei ailadeiladu yn 1812, ond fel y 'wal goch' yn ngogledd ddwyrain Cymru, fe olchwyd yr etholaeth gan y don las Geidwadol yn 2019

Tra mae newid ffiniau wedi effeithio pob etholaeth arall yng Nghymru mae statws sedd Môn - oherwydd ei bod yn ynys - wedi ei warchod yn gyfreithiol.

O ganlyniad hon fydd etholaeth leiaf Cymru o ran nifer yr etholwyr.

Ond mae disgwl ymgyrchu brwd yma dros y mis nesaf mewn ras tri cheffyl go iawn.

'Llawn cyferbyniadau'

Mae poblogaeth o bron i 70,000 ar yr ynys 276 milltir sgwar, gyda 55.8% o'r trigolion yn gallu siarad Cymraeg - ond mae ei chryfder yn amrywio'n eithaf eang o ardal i ardal.

Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae diwydiant fwy trwm o gwmpas tref a phorthladd Caergybi

Yn ynys llawn cyferbyniadau, ceir y rhan fwyaf o'r diwydiant trwm yn ei thref fwyaf poblog, sef Caergybi.

Ar yr arfordir ceir cymunedau sy'n denu ymwelwyr yn eu miloedd.

Ond mae'r canolbarth yn fwy gwledig ei naws. Yn nhref farchnad Llangefni mae'r Gymraeg ar ei chryfaf ac mae'n dal ei thir fel iaith gymunedol.

Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Yn Llangefni, sef ail dref fwyaf yr etholaeth, y mae pencadlys y cyngor sir

Gydag amaeth yn rhan mor amlwg o economi a diwylliant yr ynys, bydd y sector honno yn chwarae rhan bwysig yn nhynged yr etholiad.

Ym Mart Gaerwen brynhawn Mercher doedd neb yn gallu proffwydo pa ffordd byddai'r gwynt yn troi ar 4 Gorffennaf.

Wrth wenu dywedodd Huw Jones, sy'n ffermio ym Modedern, "never trust a politician".

Huw Jones a Victor Parry
Disgrifiad o’r llun,

Ym Mart Gaerwen roedd Huw Jones a Victor Parry yn ei gweld hi'n anodd rhagweld pwy fyddai'n fuddugol ar yr ynys

"Sgen i ddim llawer o ffydd yn ddim un ohonyn nhw.

"Maen nhw'n dweud fod pethau'n altro ond mae trethi wedi mynd i fyny a mae diesel geiniog yn fwy nag oedd o llynadd."

Ychwanegodd Victor Parry o Drefor: "Mae'r ŵyn yma'n gwerthu'n dda rwan ond mae nhw wedi codi i bris does neb lleol yn gallu prynu nhw.

"Y person sydd am ennill yn Sir Fôn, ddim y blaid."

Newid dwylo

Ond mae hanes gwleidyddol yr ynys llawn cyferbyniadau hefyd.

Mae gan Plaid Cymru fwyafrif o dros 10,000 yn y sedd ym Mae Caerdydd.

Ond sedd y Ceidwadwyr ydy hi yn San Steffan ers 2019 er fod aelod seneddol Llafur, Albert Owen, yma am 18 mlynedd cyn hynny.

Cyfri Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Ers sawl etholiad bellach mae Môn wedi bod yn etholaeth i'w gwylio oherwydd ei natur o beidio dilyn patrymau cenedlaethol

Gyda'r Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru wedi sicrhau tua thraean o'r bleidlas bedair blynedd yn ôl, mae disgwyl ras agos yma unwaith eto.

Fel ym mhob etholaeth, mae yna nifer o bobl ifanc yma fydd yn bwrw pleidlais mewn etholiad cyffredinol am y tro cyntaf.

Un ohonyn nhw fydd Dafydd Griffiths, 18, o Rosybol ger Amlwch.

Dywedodd fod pynciau fel newid hinsawdd a chostau byw yn bynciau oedd yn "codi eu pen yn aml" gyda'i ffrindiau.

Dafydd Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Griffiths: "'Da ni isho gwneud yn siŵr fod Ynys Môn a Chymru'n cael y llais cywir yn San Steffan"

"Mae'n anodd iawn i rywun o'n hoed ni yn trio byw bywyd ysgol, dysgu dreifio ac ati, ond hefyd polisi tramor y wlad a beth sy'n digwydd yn Israel a Gaza.

"'Dan ni isho gwneud yn siwr fod Ynys Môn a Chymru'n cael y llais cywir yn San Steffan a fod nhw'n cymyd i ystyriaeth be 'da ni'r Cymry wir yn feddwl.

"Mae diffyg swyddi yn broblem, yn enwedig yn ardal Amlwch, does 'na ddim lot o gyfleoedd i bobl ifanc.

"Dwi'n bwriadu aros yma'n yr hir dymor ond mae 'na sawl aelod o'r chweched yn meddwl fod mwy o gyfleoedd tu allan i'r ynys a Chymru."

'Angen mwy o bres'

Mae'r ymgyrchu eisoes wedi cychwyn ar lawr gwlad ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yma mae'r aelod presennol, Virginia Crosbie, yn gobeithio amddiffyn ei sedd â mwyafrif o bron i 2,000.

Ei gwrthwynebydd ar ran Plaid Cymru fydd arweinydd y cyngor sir, Llinos Medi.

Gobaith Ieuan Môn Williams fydd manteisio ar y polau piniwn cenedlaethol ac adennill y sedd i’r Blaid Lafur ac mae pedwar ymgeisydd arall hefyd yn gobeithio creu argraff.

Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Gyda chyflogwyr mawr yn brin ar yr ynys, mae nifer o'r trigolion yn gweithio ar y tir mawr

Ond gyda dros chwarter poblogaeth yr ynys dros 65 oed, mi fydd y bleidlais hŷn yn dylanwadu llawer ar y canlyniad.

Yn y clwb cyfrifiaduron, wedi ei drefnu gan Age Cymru Gwynedd a Môn yng Nghanolfan Glanhwfa, Llangefni, roedd rhai yn bendant bod angen newid.

Dywedodd Kathryn Robyns o Rostrehwfa bod mesurau i ddiogelu'r iaith Gymraeg yn bwysig iddi.

"Mae 'na gymaint o fewnfudwyr o Loegr, o dai haf, ond yn bersonol fy hun fyswn i ddim yn licio gweld Wylfa'n dod.

Mair Jones a Kathryn Robyns
Disgrifiad o’r llun,

Mair Jones o Lynfaes a Kathryn Robyns o Rostrehwfa

"Maen nhw isho 10,000 o weithwyr a dydyn nhw ddim yn mynd i gael gymaint â hynny o Sir Fôn felly 'da ni'n gweld ryw fewnlifiad eto.

"Dwi'm yn meddwl, gan fod y Torïaid i lawr, yr awn nhw i fewn eto gan fod bob dim yn eu herbyn nhw ar hyn o bryd."

Yn ôl Mair Jones o Lynfaes, mae angen mwy o gyllid i gynghorau ddarparu gwasanaethau lleol.

"Mae 'na gymaint o bobl angen help yn y canolfannau cadw'n heini a ballu ac mae angen mwy o bres," meddai.

'Llanast y blynyddoedd diwetha'

Tuag at y dwyrain mae tref Porthaethwy - lle yn ddyddiol mae miloedd o geir yn gadael yr ynys ac yn croesi'r pontydd bob bore i gyrraedd eu gwaith.

Ymysg perchnogion busnes ar y stryd fawr roedd eu diddordeb yn yr etholiad yn amrywiol.

Hannah Jones
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Hannah Jones ddim yn teimlo fod yr ymgyrch wedi gwneud llawer o argraff hyd yma

Dywedodd Hannah Jones o Hannah's Barber Shop: "Does na'm lot yn visible i mi, dwi'm di gweld digon i wybod lot am y peth really.

"Dwi di cael un neu ddau o leaflets drwy'r post ond dyna oll."

Ond dywedodd Ioan Prys o siop Awen Menai fod cyfraddau busnes yn bwnc llosg.

"Maen nhw wedi mynd i fyny lot fawr yn y blynyddoedd diwethaf felly fyswn yn sbio fewn i hynny.

"Ond yr economi yn gyffredinol, a'r llanast sydd 'di bod dros y blynyddoedd diwetha' 'ma, dyna'r broblem mwya dwi'n meddwl.

"Dwi'm yn hapus sut mae pethau wedi mynd, ac hefo sgandals Vaughan Gething yng Nghaerdydd, dwi'n gobeithio eith yr 'un o'r ddau yna i fewn."

Ioan Prys
Disgrifiad o’r llun,

Fyddai Ioan Prys, sy'n rhedeg Awen Menai, yn hoffi gweld mwy o gymorth i fusnesau

O edrych ar hanes etholiadol yr ynys, mae tuedd o gefnogi’r ymgeisydd yn hytrach na phlaid.

Does yr un Aelod Seneddol wedi colli eu sedd yma ers Megan Lloyd George ym 1951.

Ar hyn o bryd mae’n anodd iawn proffwydo os fydd y record anhygoel honno'n parhau neu beidio.

Rhestr lawn o’r ymgeiswyr yn etholaeth Ynys Môn:

Virginia Crosbie - Ceidwadwyr

Leena Farhat - Democratiaid Rhyddfrydol

Emmett Jenner - Reform UK

Llinos Medi - Plaid Cymru

Martin Schwaller - Y Blaid Werdd

Sir Grumpus L Shorticus - Monster Raving Loony Party

Ieuan Williams - Llafur

Sam Wood - Libertarian Party

Pynciau Cysylltiedig

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV world : Harland and Wolff posts £43m loss
NEXT world : Schoolgirl died 'after taking cocaine and ecstasy'