world : Angen mwy o gyllid ar Gymru, medd Plaid Cymru

world : Angen mwy o gyllid ar Gymru, medd Plaid Cymru
world : Angen mwy o gyllid ar Gymru, medd Plaid Cymru

Thursday 13 June 2024 08:45 AM

Nafeza 2 world - Mae “biliynau” yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i wariant llywodraeth Prydain ar reilffordd HS2 o Lundain i ganolbarth Lloegr, meddai Plaid Cymru.

Mae’r blaid hefyd yn galw am newidiadau i sut mae San Steffan yn gosod cyllideb Llywodraeth Cymru er mwyn ateb anghenion Cymru.

Dylai rheolaeth dros Ystad y Goron gael ei datganoli hefyd, fel bod elw o’i heiddo yn mynd i’r llywodraeth yng Nghaerdydd, nid y Trysorlys yn Llundain, meddai Plaid Cymru.

Mae bob plaid yn y Senedd wedi dweud y dylid ychwanegu at gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i’r cynllun HS2.

Ond o dan y Ceidwadwyr, gwrthododd llywodraeth Prydain roi’r prosiect mewn categori a fyddai’n rhyddhau mwy o arian i Gymru ac mae Llafur hefyd wedi gwrthod addo gwneud hynny.

Ym mis Mawrth, dywedodd Syr Keir Starmer y byddai’n rhaid i lywodraeth Lafur “adolygu hynny a gwneud penderfyniadau pan fyddwn ni’n gallu”.

Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd arian sy'n cael ei arbed o ddileu cam nesaf HS2 yn cael ei wario ar drydaneiddio’r prif reilffordd yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Byddwn yn brwydro bob dydd am y biliynau sy’n ddyledus i Gymru o brosiect rheilffordd cyflym HS2, ac am fodel ariannu teg sy’n ariannu ein gwlad yn ôl angen, nid poblogaeth.

“Ar 4 Gorffennaf, gallwn anfon neges na fydd Cymru’n cael ei chymryd yn ganiataol mwyach a hynny drwy ethol grŵp cryf o ASau Plaid Cymru fydd bob amser yn mynnu tegwch i’w cymunedau ac yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf yn San Steffan.”

Yn dilyn newid ffiniau, mae Plaid yn amddiffyn dwy etholaeth: Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.

Ac mae’n brwydro yn erbyn Llafur a’r Ceidwadwyr i ennill dwy sedd darged arall: Caerfyrddin ac Ynys Môn.

Cafodd Mr ap Iorwerth ei benodi'n arweinydd fis Mehefin y llynedd pan y bu'n rhaid i’w ragflaenydd, Adam Price, gamu lawr ar ôl i adroddiad mewnol damniol o’r blaid.

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd y blaid eu bod wedi dod â'r Cytundeb Cydweithio gyda llywodraeth Lafur Cymru i ben.

Pleidleisiodd y blaid yn erbyn y prif weinidog Vaughan Gething mewn pleidlais o ddiffyg hyder y mis hwn.

Cyn cyhoeddi y maniffesto, dywedodd Mr ap Iorwerth mewn cyfweliad gyda’r BBC fod y blaid eisiau trethu pobl “sydd â llawer iawn o gyfoeth”, ond na fyddent yn "cynyddu baich" pobl ar gyflogau isel a chanolig.

Mae e hefyd yn galw am drethi mwy ar elw mawr y cwmnïau olew a nwy. Ym mis Mawrth, fe wnaeth y Canghellor Jeremy Hunt estyn treth o 35% ar y cwmnïau hynny tan 2029.

Fe gafodd y dreth ei chyflwyno gan Mr Sunak pan oedd e’n ganghellor ar ôl i’r diwydiant wneud elw mawr wedi i Rwsia ymosod ar Wcráin.

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

NEXT world : Harte 'hugely disappointed' as Derry's season peters out