world : Angen mwy o ‘swyddi da’ i gadw pobl ifanc yn Ynys Môn

world : Angen mwy o ‘swyddi da’ i gadw pobl ifanc yn Ynys Môn
world : Angen mwy o ‘swyddi da’ i gadw pobl ifanc yn Ynys Môn

Thursday 13 June 2024 08:45 AM

Nafeza 2 world - Mae 'na alw am fwy o "swyddi da" er mwyn cadw pobl ifanc i weithio ar Ynys Môn.

Daw hyn wrth i'r ynys weld mwy o bobl rhwng 15 a 29 oed yn gadael yr ynys na sy’n symud i fyw yno dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

I Osian Roberts, syn paratoi i ddechrau ei swydd ddelfrydol, dywedodd ei fod yn "siom gorfod symud o'r ardal".

Mae Osian yn astudio peirianneg awyrennol yng Ngholeg Menai Llangefni cyn mynd ymlaen i weithio i Airbus.

Ag yntau wedi gorfod gadael ei fro er mwyn gwneud hynny, dywedodd: “Dwi ‘di bod yn lwcus i gael y swydd dwi ‘di cael gyda chwmni mawr, yn enwedig achos does dim swyddi sy’n talu’r fath o arian mae Airbus yn talu o gwmpas yr ardal yma".

Ychwanegodd ei fod yn "siom gorfod symud o’r ardal, ond does dim dewis. Mae angen mwy o swyddi da yma i newid pethau.”

Mae Geraint Roberts, 17, yn un o ffrindiau gorau a chyd fyfyrwyr Osian.

Yn wahanol i Osian, mae'n dal i obeithio y bydd yn gallu ffeindio swydd dda ar Ynys Môn.

Dywedodd: “Dwi’n chwilio am rywbeth mwy lleol na Osian ond mae o’n anodd. Does dim cymaint o gyfleoedd i fynd uchel fyny rownd fan hyn, ti’n sôn am nifer fach iawn o swyddi rili. Ond dwi’n dal i ddyfalbarhau.”

Ond nid pawb sydd am aros yn lleol am byth.

Mae Ffion Parry yn gobeithio cael lle ar gwrs yn Ardal y Llynnoedd, yng ngogledd orllewin Lloegr ar ôl gorffen astudio Gwasanaethau Gwarchod Mewn Lifrai.

Dywedodd ei bod yn "gorfod gadael yr ynys i wneud yr hyn dwi am wneud nesaf ond mae hynny’n peth cyffrous.

"Dwi’n edrych ymlaen at fyw rhywle arall am gyfnod, ond dwi’n gobeithio dod 'nôl ar ôl gorffen y cwrs ac mae hynny’n achosi i fi poeni ychydig o ran be’ dwi’n mynd i wneud yma.

"Does dim llawer o gwmpas yr ardal yma, o ran swyddi da beth bynnag.”

Mae Ynys Môn wedi gweld mwy o bobl rhwng 15 a 29 oed yn gadael yr ynys na sy’n symud i fyw yno dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r sefyllfa o ran hynny yn waeth ar yr ynys nac ym mhob un o etholaethau eraill Cymru heblaw dau.

Felly sut mae datrys y broblem?

Mae Dafydd Gruffydd yn rheolwr gyfarwyddwr ym Menter Môn. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi 85 o bobl ar draws yr ardal.

Gobaith y fenter yw cefnogi mwy o bobl ifanc yn y dyfodol trwy brosiectau ynni adnewyddadwy newydd.

“Ynys Môn yw’r ynys ynni. Mae ‘na gyfleoedd yma o ran solar, gwynt, y llanw a niwclear o bosib. Mae'r rhain yn swyddi da sydd angen sgiliau tebyg ac felly mae angen i ni gefnogi ein pobl ifanc ni i gael y sgiliau yna.

Ychwanegodd: “Dwi’n nabod nifer o gyrff ar Ynys Môn, gan gynnwys ni ein hunain, sy’n cael trafferth yn recriwtio pobl ifanc ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n sôn am y cyfleoedd cyffrous sydd yma.

‘Da ni angen pobl ifanc i aros yma a datblygu’r diwydiant er mwyn i’r ardal gyrraedd ei photensial.”

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod economi cryf yn "arwain at wasanaethau cyhoeddus cryf", gan ychwanegu "nad oes gan Lafur gynlluniau i dyfu economi Cymru, i gael pobl mewn swyddi, i gynyddu cyflogau gweithwyr yng Nghymru nac i gefnogi busnesau Cymreig".

Dywedodd Llafur: "Mae'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn canolbwyntio ar warchod swyddi Cymraeg, cael pobl allan o dlodi a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw y mae'r Torïaid wedi ei greu," gan ddweud eu bod wedi eu "cyfyngu gan lywodraeth Geidwadol" yn San Steffan.

Mae Plaid Cymru a Reform wedi cael cais am ymateb.

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV world : Drake's Toronto home 'The Embassy' hit by floods
NEXT world : Harte 'hugely disappointed' as Derry's season peters out