world : Dysgu byw gydag alopesia gyda help 'cymuned anhygoel'

Friday 14 June 2024 08:30 AM

Nafeza 2 world - Dysgu byw gydag alopesia gyda help 'cymuned anhygoel' - BBC Cymru Fyw

16 oed oedd Poppie Davies o Gaerdydd pan welodd driniwr gwallt ran foel ar ei phen.

A hithau bellach yn 21, dywedodd bod y cyflwr wedi "cynyddu fel caseg eira" gan "newid byd" a chwalu ei hunan-hyder, nes na allai hi edrych ar ei hun mewn drych.

"Ro'n i'n teimlo bod rhaid cuddio'r peth pan ro'n i yn yr ysgol," dywedodd, wrth ddisgrifio'r straen o geisio cadw'r cyflwr yn gyfrinach.

"Yn fy mhen i, do'n i ddim am i neb wybod. Roedd gwisgo wig yn feichus. Roedd yn eithaf ynysig.

"Byddwn i hyd yn oed yn gwisgo wig yn yr ardd, rhag ofn i fy nghymdogion fy ngweld."

Adennill hyder

Penderfynodd Poppie bod dechrau yn y brifysgol yn gyfle da i fyw gydag alopesia mewn ffordd fwy positif, ac roedd y ffrindiau a wnaeth yno yn eithriadol o gefnogol.

"Mae wedi bod yn bum mlynedd hir, ond rwy' wedi dysgu i feddiannu'r peth," dywedodd wrth raglen Wales Live.

"Os nad ydw i eisiau gwisgo wig, dydw i ddim. Os rwy' eisiau gwisgo wig a'i steilio - mae hynny'n hwyl hefyd."

Dywedodd bod yna "gymuned anhygoel" o bobl, ar-lein ac yn y cnawd, a thrwy gysylltu gyda grŵp cefnogaeth lleol fe lwyddodd i adennill hyder.

"Nawr rwy'n edrych ar y pethau positif - a sut galla' i helpu pobl eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Ni fyddai Ben Lowery yn dymuno cael ei wallt yn ôl erbyn hyn, pe bai'r dewis ganddo

Yn 2012 fe gollodd Ben Lowrey, 40, o Rondda Cynon Taf, ei wallt i gyd o fewn ychydig fisoedd.

Fe ymatebodd trwy ganolbwyntio ar ei ffitrwydd - a chael gwaith fel model noeth.

"Do'n i methu rheoli fy ngwallt, ond ro'n i yn achos fy ffitrwydd," dywedodd.

"Nes i ddim profi llawer o negatifrwydd - sylw positif yn hytrach am fod mor heini."

Ymunodd ag asiantaeth gan weithio fel bwtler noeth a model mewn dosbarthiadau darlunio yn ystod digwyddiadau fel partïon plu.

"Fe ddes i'n fwy hyderus," dywedodd. "Roedd mwy iddo na jest bod yn noeth - ro'n i'n cymryd rheolaeth o'r ystafell, siarad gyda grwpiau o bobl a bod yn rhan o'u digwyddiadau arbennig."

Mae'n dweud pe tasai ganddo'r dewis, ni fyddai'n dewis cael ei wallt yn ôl.

"Mae alopesia wedi fy ngorfodi i fod yn hyderus mewn ffyrdd eraill - i ganolbwyntio ar fy ngwerthoedd, nodau ac egwyddorion."

Ryan Rush o flaen posterFfynhonnell y llun, Ryan Rush
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweld poster gyda model ag alopesia yn agoriad llygad i Ryan Rush

Pedair oed oedd Ryan Rush pan ddatblygodd foelni am y tro cyntaf yn ei wallt, ac fe ddatblygodd y cyflwr nes ei fod yn 10.

Yn ôl Ryan, sy'n 22 ac yn byw yng Nghaerffili, roedd colli ei aeliau yn waeth "oherwydd mae'n haws i'w weld ac yn anoddach i'w guddio".

Roedd yn destun ambell sylw negyddol yn yr ysgol uwchradd.

"Bwlio geiriol oedd e yn bennaf, ond yn gyffredinol, doedd e ddim yn rhy ddrwg. Rwy'n meddwl bod wnelo'r sylw fwy â chwilfrydedd."

Ni ddaeth ar draws unrhyw un arall ag alopesia nes iddo fynd ar wyliau yn ei arddegau, ond y llynedd fe welodd delwedd o fodel â'r cyflwr, Adam Rhazali, ar boster yng Nghaerdydd.

"Roedd yn syfrdanol, jest i weld rhywun fel fi mor amlwg," meddai.

"'Naeth e wneud i mi deimlo'n falch, hyderus a mwy cyfforddus."

Beth yw alopesia?
  • Alopesia yw'r term meddygol cyffredinol am golli gwallt;

  • Gall fod yn etifeddol neu gael ei achosi trwy ffactorau fel straen;

  • Yn nodweddiadol mae'n gyflwr hunanimíwn, ble mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar ffoliglau'r gwallt;

  • Gall effeithio ar wallt y corff cyfan;

  • Mae rhai mathau o alopesia yn fyrdymor tra gall mathau eraill fod yn barhaol.

Dr Manju Kalaval
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Manju Kalaval wedi gweld "cynnydd anferth" mewn galw gan gleifion sydd wedi colli eu gwallt

Roedd cyhoeddiad mis Chwefror bod Ritlecitinib neu Litfulo ar gael i gleifion y GIG yn "newyddion da", medd Dr Manju Kalaval, meddyg ymgynghorol a chyfarwyddwr clinigol dermatoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Mae wedi gweld "cynnydd anferth" mewn galw gan gleifion sydd wedi colli eu gwallt, ond roedd yna restr aros hyd at ddwy flynedd wedi'r pandemig.

"Fe weithion ni'n galed a llwyddo i'w leihau," meddai.

"Ar hyn o bryd, tua 42 wythnos yw'r amser aros [ond] rydym yn cydnabod na allen ni gadw cleifion yn aros mor hir â hynny."

Dywed Dr Kalavala bod cynlluniau prawf Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cael eu mabwysiadu ar draws Cymru erbyn hyn er mwyn sicrhau help i gleifion mor fuan â phosib.

Mae technoleg teledermatoleg, meddai, yn caniatáu i feddygon teulu gyfeirio claf gyda llun yn amlygu cyflwr yr unigolyn.

"Rydym yn ateb o fewn ychydig ddyddiau ac yn gallu gofyn am brofion a chynnig cyngor sy'n helpu cyflymu'r broses tra'u bod yn aros i'n gweld."

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV world : Kenyan leader faces furious young people in online debate
NEXT world News : 'Concerning increase' in dog attacks on postal workers