world : Pump peth difyr o bodlediad Vaughan a Richard

world : Pump peth difyr o bodlediad Vaughan a Richard
world : Pump peth difyr o bodlediad Vaughan a Richard

Friday 14 June 2024 08:30 AM

Nafeza 2 world - Gyda’r holl sylw i’r Etholiad Cyffredinol mae’n hawdd methu’r pethau difyr a pherthnasol sy’n codi yn ystod yr ymgyrch...

Yn ffodus mae ‘na bobl fel y newyddiadurwr Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn cadw llygad ar y cyfan - ac yn trafod yr uchafbwyntiau mewn podlediad newydd sbon.

Dyma rai o’r pethau difyr yn y gyntaf o'r gyfres.

Doedd ‘na ddim llawer o bobl oedd yn disgwyl etholiad mis Gorffennaf - ac mae ‘na dipyn o grafu pen ynglŷn â’r rheswm tu cefn i benderfyniad Rishi Sunak.

Tydi Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru Vaughan Roderick na’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru dal ddim yn siŵr beth oedd y rhesymeg, ac mae’n ymddangos nad nhw ydi’r unig rai.

“Y peth mwya’ trawiadol i fi yn ystod y tair wythnos diwetha’ - a fydd bron neb wedi sylwi ar hyn,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones yn y podlediad, “ydi deuddydd ar ôl i Sunak alw’r etholiad... roedd ‘na rhywun yn briffio ar ran Isaac Lavido, sef y wunderkind yma sydd i fod yn rhedeg yr ymgyrch i’r Ceidwadwyr, yn deud ‘o ni’n erbyn galw’r etholiad rŵan’...

“Roedd o fel petai’r person oedd i fod yn frêns tu ôl i’r ymgyrch yn pellhau ei hun - o fewn deuddydd... o’n i’n meddwl oedd yn drawiadol iawn.”

Mae Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU wedi bod o dan bwysau yn ddiweddar.

Ac nid dyna’r unig beth sydd ganddyn nhw yn gyffredin yn ôl un theori a drafodwyd yn y podlediad.

“Oes yna debygrwydd efallai rhwng Vaughan Gething a Rishi Sunak?” gofynnodd Vaughan Roderick.

“Hynny ydi bod nhw’n wleidyddion sydd â meddwl mawr iawn ohonyn nhw ei hun ac sydd wedi amgylchynu eu hunain efo pobl sydd ddim yn eu herio nhw ac sydd ddim yn cwestiynu nhw ac oherwydd hynny mae’r ddau ohonyn nhw yn gwneud camgymeriadau?”

“Mae hwnna’n gymhariaeth dda iawn - mae lot yn hynny,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones.

“Dydi nhw ddim efo’r sgiliau meddal yna a synnwyr greddfol yna bron sydd efo gwleidyddion yn y rheng uchaf ynglŷn â sut mae pobl yn eu canfod nhw a chanfod yr hyn maen nhw’n ddweud.

"Gwleidyddiaeth by numbers ydi o - rhyw glyfrwch ‘dwi am ddeud hynny, dwi ddim am cweit ddeud hynna’...

“Mae’n dod drosodd yn haerllug a’r ffordd mae’r gymhariaeth yn gweithio ymhellach, erbyn rŵan mae’r ddau yn gwneud niwed i’w pleidiau eu hunain.”

Mae sawl ffordd wahanol o redeg ymgyrch etholiad, ond tydi’r Athro Richard Wyn Jones ddim yn meddwl bod opsiwn y Ceidwadwyr wedi bod yn un doeth:

“Yn y pen draw maen nhw wedi dewis rhedeg ymgyrch Arlywyddol.

"Maen nhw wedi dewis rhoi Rishi Sunak reit ar flaen yr ymgyrch yna, fyddai wedi gwneud synnwyr flwyddyn yn ôl achos mi roedd o’n fwy poblogaidd na’r Ceidwadwyr ar y pryd. Rŵan mae o’n llai poblogaidd - yn wir mae o’n llai poblogaidd na Jeremy Corbyn yn 2019.

“Felly ‘da chi’n cael person fel petai o ddim efo’r sgiliau gwleidyddol i redeg ymgyrch Arlywyddol.”

Ynys Môn ydi’r unig etholaeth yng Nghymru fydd ddim yn newid oherwydd addasiadau i’r ffiniau... ond tydi hynny ddim yn golygu na fydd yn ddiddorol.

“O bosib, Ynys Môn ydi’r unig etholaeth yn y gogledd lle mae ‘na gwestiwn go iawn pwy sydd yn mynd i fod yn fuddugol achos mae’n un o’r seddau yna lle mae geno chi dair plaid (yn cystadlu),” meddai’r Athro Richard Wyn Jones.

“Fy theori i am yr etholiad yma o’r cychwyn ydi bod o’n etholiad lle mai pleidleisio negyddol sydd yn gyrru bob dim. Hynny yw pleidleisio yn erbyn rhywbeth yn hytrach nag o blaid - ac yn erbyn y Ceidwadwyr - dyna sy’n gyrru pethau.

“Fydd lot fawr o bleidleisio tactegol yn mynd ymlaen ac yn Ynys Môn mae ‘na ddwy blaid yn cystadlu i fod y blaid wrth-Geidwadol... sef Plaid Cymru a’r Blaid Lafur ac mae honna’n neud hi’n wirioneddol ddiddorol.”

Wrth drafod, roedd y ddau arbenigwr yn ceisio cofio pryd oedd y tro diwetha’ i Lafur gael canran uwch o’r bleidlais yn Lloegr nag yng Nghymru.

Yr 1920au neu cyn hynny oedd cynnig Vaughan Roderick.

Ateb ychydig llai penodol yr Athro Richard Wyn Jones oedd bod Llafur yn gwneud yn well yn Lloegr “yn anaml iawn, iawn, iawn, iawn, iawn, iawn.”

Ac ychwanegodd bod hynny o bosib ar fin newid: “Mae’n bosib yn ôl rhai o’r arolygon 'dan ni’n eu gweld y gall Llafur neud yn well yn Lloegr nag yng Nghymru... ond o drwch asgell gwybedyn.”

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

NEXT world : Harte 'hugely disappointed' as Derry's season peters out