world : Papur Pawb yn 50: 'Rhaid symud gyda'r oes'

world : Papur Pawb yn 50: 'Rhaid symud gyda'r oes'
world : Papur Pawb yn 50: 'Rhaid symud gyda'r oes'

Sunday 16 June 2024 08:48 AM

Nafeza 2 world - Y pedwar a sefydlodd Papur Pawb yn 1974 oedd Robat Gruffudd, Gwilym Huws, Hefin Llwyd a'r diweddar Siôn Myrddin.

Y weledigaeth, yn ôl Robat Gruffudd, oedd "creu papur hwyliog a phoblogaidd a fyddai’n adlewyrchu bywyd y fro yn ei lawnder".

Dywedodd Mr Gruffudd wrth Cymru Fyw fod y papur yn parhau i ffynnu "er gwaetha’r holl ddarogan gwae am fygythiad technolegau newydd a phroblemau’r iaith".

"Nid gormodedd yw dweud bod parhad a ffyniant y papur dros gyfnod mor anhygoel o hir – fel y papurau bro eraill – yn dipyn o wyrth ac yn un o ryfeddodau’r iaith."

Mi wnaeth Papur Pawb "ddechrau ton o bapurau" fel y Ddolen, Y Blewyn Glas a'r Tincer, yn ôl Catrin Davies.

Erbyn hyn mae dros 50 o bapurau bro yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi'r 500fed rhifyn, bydd dathliad yn Nhal-y-bont brynhawn Sul ar gyfer darllenwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar y papur misol.

Bydd arddangosfa o hen rifynnau, lluniau a chyfle i greu cist cofio fydd yn cynnwys eitemau sy'n cynrychioli’r degawdau rhwng 1974 a 2024.

Mae Robat Gruffudd a Catrin Davies yn dweud bod gwaith gwirfoddolwyr wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y papur.

Mae rhai ohonyn nhw wedi gwirfoddoli am ddegawdau.

"Be sy'n wych yw cynifer y bobl sy'n rhoi o'u hamser i ddod a'r papur i ddrws y tŷ," meddai Catrin Davies.

"Ry'n ni wedi gweld dipyn o bobl yn cyrraedd oed teg iawn ac yn penderfynu ymddeol o be' maen nhw wedi neud am ddegawdau ond ma' rhywun yn fodlon cymryd eu lle nhw."

Eglura Robat Gruffudd: "Ers blynyddoedd bellach, mae criw iau wedi cymryd yr awenau dan arweiniad cadarn Gwyn Jenkins sydd, fel Golygydd Cyffredinol, yn llywio criw eang o bentrefwyr trwy’r broses o ysgrifennu, golygu, dylunio a dosbarthu’r papur".

Un o'r rhai diweddaraf i gynnig gwirfoddoli i'r papur ydi Eibhlin (Helena) Ni Shuilleabhain.

"Pan ofynnwyd i mi helpu Papur Pawb, teimlais y dylwn, os gallwn i wneud y gwaith, gan mai dyna yw hanfod bod yn rhan o gymuned," meddai.

"Hefyd, fel dysgwr Cymraeg, mae hyn yn bwysig.

"Mae hefyd yn bwysig iawn bod fy mhlant yn dysgu pwysigrwydd bod yn rhan o'u cymuned leol, ac mae gwirfoddoli gyda'r gwaith hwn yn ffordd o ddangos hynny."

Mae Catrin Davies yn hel atgofion o'r 1970au pan gafodd y papur ei gyhoeddi am y tro cyntaf.

"Ma' gymaint o straeon o bobl yn sticio eu hunain a'r papur at fyrddau gyda glud achos odden nhw'n gorfod sticio'r lluniau lawr a wedyn y cyffro wrth i ni argraffu am y tro cynta' a wedyn fe ddaeth lluniau lliw."

Mae'n egluro bod rhoi Papur Pawb ar y we yn golygu bod modd parhau i gyhoeddi dros gyfnod Covid a denu darllenwyr newydd.

Ond mae'n cyfaddef bod 'na "heriau."

"Ni'n lwcus mewn sawl ffordd, ni ddim wedi cael trafferth cael gwirfoddolwyr - ond un o'r heriau yw gweld nifer y darllenwyr yn mynd lawr fel pob un papur, nid jyst papurau bro," meddai.

"Un peth byddwn ni'n wneud gyda'r 500fed rhifyn yw dosbarthu e am ddim i ddathlu'r pen-blwydd 50 a bydd hwnna ar gael i bob cartref yn yr ardal.

"Byddwn ni'n rhoi copïau o'r papur am ddim ymhob siop a busnes gan obeithio y bydd pobl yn ei weld e ac yn ei godi e.

"Ni'n gobeithio drwy ddosbarthu fe'n eang am ddim, bydd mwy o bobl yn ei ddarllen e."

Mae Catrin yn cyfaddef nad oes ganddi "syniad sut bydd pobl yn cael eu newyddion mewn 10 mlynedd."

Ychwanegodd Ms Davies: "Wrth ddathlu 50 oed a chyhoeddi'r 500fed rhifyn, yr her yw edrych 'mlaen a gweld beth sydd angen ei wneud i sicrhau dyfodol i'r papur ac mae'n rhaid newid drwy'r amser.

"Dwi ddim yn gweld lot o ddyfodol i bapurau bob dydd yn y 10 mlynedd nesaf ond dwi yn gweld dyfodol i bapurau bro gan ganolbwyntio ar y fro.

"Pa siâp fydd arno fe? Dwi ddim yn hollol siŵr ond dyna be mae pobl Papur Pawb yn ei wneud yw symud gyda'r oes drwy'r amser a dal i ddarparu papur ar bapur.

"Dwi'n hyderus achos diolch i'r drefn mae pobl lot iau na fi yn gwirfoddoli.

"Mae gennym ni gyfrifon Instagram, X a Facebook ond mae 'na ddigon o bobl sy'n defnyddio TikTok yn gwirfoddoli i'r papur a dyna lle bydd rhaid edrych os byddwn ni eisiau cadw fynd."

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

NEXT Nafeza : Divisions exposed as Sunday vote gives far-right chance to tighten grip in Germany