world : Diarddel gofalwr am geisio trefnu rhyw â merched 13 oed

world : Diarddel gofalwr am geisio trefnu rhyw â merched 13 oed
world : Diarddel gofalwr am geisio trefnu rhyw â merched 13 oed

Monday 17 June 2024 10:31 PM

Nafeza 2 world - Mae gofalwr o Wynedd wedi cael ei wahardd rhag gweithio yn y maes ar ôl cael ei ganfod yn euog o geisio darbwyllo rhieni i'w adael i gam-drin eu merched 13 oed yn rhywiol.

Doedd Huw Meredydd Groom ddim yn ymwybodol ei fod yn siarad â swyddogion heddlu cudd ar-lein.

Cafodd Groom ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Rhagfyr 2023, a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.

Penderfynodd panel Gofal Cymdeithasol Cymru nad oedd hi’n addas iddo barhau yn ei waith, ac fe gafodd ei atal rhag gweithio yn y maes yng Nghymru.

“Fe wnaeth Groom ymddwyn mewn ffordd allai beryglu defnyddwyr gofal a chymorth,” meddai cadeirydd y gwrandawiad Tony Graham.

“Methodd Groom ag ymddwyn yn unol â safonau gofal ac egwyddorion y proffesiwn gofal cymdeithasol.”

Bu Groom yn gweithio fel swyddog gofal dros nos mewn cartref gofal preifat i blant yng Ngwynedd pan gafodd ei ddal gan heddlu cudd.

Clywodd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer iddo sgwrsio’n rhywiol â thair menyw ar-lein, gan gredu bod nhw’n fodlon rhoi mynediad iddo at eu merched.

Fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad o hwyluso gweithgaredd rhywiol â phlentyn, yn dilyn ymchwiliad yr heddlu.

Dywedodd panel Gofal Cymdeithasol Cymru y byddai’n gorchymyn i Groom gael ei ddileu o gofrestr gweithwyr gofal Cymru.

Mae ei enw hefyd ar gofrestr cofnodion trosedd, sy’n ei atal rhag gweithio yn y proffesiwn.

“Rydyn ni wedi penderfynu y byddai caniatáu Groom i barhau ar y gofrestr yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y maes gofal cymdeithasol,” meddai cadeirydd y panel.

Doedd Groom ddim yn bresennol yn y gwrandawiad a doedd dim cynrychiolaeth i'w amddiffyn.

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV world : From one to 29 medals: India’s Paralympic revolution
NEXT Nafeza : Divisions exposed as Sunday vote gives far-right chance to tighten grip in Germany