Tuesday 18 June 2024 10:31 PM
Nafeza 2 world - Bydd mab Joanna North, Iolo, nawr yn gallu dechrau yn y dosbarth derbyn ym mis Medi.
"Mae'n rhyddhad mawr i ni," meddai.
"Ar ôl bod yn y meithrin ry'n ni wrth ein boddau bod modd iddo fe barhau yn yr un ysgol â'i ffrindiau, mewn awyrgylch mae e'n gyfarwydd â hi a gyda staff mae e'n eu hadnabod."
Dywedodd Ms North ei bod "mor falch y bydd e nawr yn parhau gydag addysg Gymraeg a'r cyfleoedd ddaw yn sgil hynny".
"Ry ni'n ddiolchgar i'r cyngor am gefnogi'r hyn roedd yr ysgol eisiau i ddigwydd.
"Mae hi wedi bod yn ddeufis anodd."
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Caerdydd: "Ar ôl ystyried yn ofalus, ry'n ni wedi darganfod ffordd o gynyddu maint yr ysgol fis Medi mewn modd fforddiadwy a chynaliadwy.
"Mae hyn yn golygu y bydd pob plentyn wnaeth gais am le yn gallu dechrau yn y dosbarth derbyn eleni.
"Mae'r Cyngor wedi cael sicrwydd gan lywodraethwyr yr ysgol na fydd caniatáu plant ychwanegol yn cael effaith ar safon addysg a gofal holl blant yr ysgol."
Wrth ymateb, fe ddywedodd mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg fod hyn yn "newyddion ardderchog" ond bod lle i Lywodraeth Cymru graffu ymhellach ar y cod mynediad i ysgolion gan ystyried a yw'n cyd-fynd gyda thargedau i gynyddu canran disgyblion sydd mewn addysg Gymraeg.
Roedd y mudiad yn dadlau fod cod y Llywodraeth yn caniatáu i'r Cyngor dderbyn mwy o blant os oes prinder darpariaeth dros dro, tra bod darpariaeth ychwanegol yn cael ei sefydlu.