Wednesday 19 June 2024 08:46 AM
Nafeza 2 world - Mae menyw wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad ym Mhontypridd.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r ardal tua 09:00 fore dydd Mawrth yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Cafodd dyn 58 oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl iddo gael ei anafu ar y ffordd rhwng adeiladau y Gwasanaeth Prawf a Kwik Fit.
Mae'r heddlu wedi disgrifio ei anafaiadu fel rhai "a all newid ei fywyd".
Cafodd menyw 45 oed ei harestio ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n edrych am unrhyw un arall cysylltiedig â'r achos.