world : Beth yw gwir sefyllfa iechyd yng Nghymru?

Thursday 20 June 2024 08:00 AM

Nafeza 2 world - Disgrifiad o’r llun,

Mae Owenna wedi bod yn aros pum mlynedd i gael pen-glin newydd, a thair blynedd am lawdriniaethau ar ei dwy glun

Owain Clarke

Gohebydd Iechyd BBC Cymru

Yn gyn-athrawes ac eisteddfodwraig frwd, mae Owenna Davies, 76 o Ffostrasol, wedi ymddiddori a chyfrannu drwy gydol ei hoes at fyd y pethau.

Ond mae gwneud hynny cymaint yn anoddach iddi erbyn hyn – a'r peth sy'n ei phoeni fwyaf yw'r boen.

"Daeth pethau i ben i fi llynedd. O'n i wedi goddef Eisteddfod Tregaron yn eithriadol o dda," meddai.

"O'n i'n Llywydd Merched y Wawr ar y pryd a roedd gen i le i eistedd ar y stondin drwy'r dydd mwy neu lai.

"Ond pan es i llynedd i Foduan, ar ôl tridiau fuodd rhaid i fi fynd adref.

"Mi oeddwn i wedi llogi carafán am yr wythnos ond doeddwn i methu cerdded y maes, methu cerdded lawr i'r maes."

Cliciwch i ehangu

Dim Cysylltiad Rhyngrwyd

Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.

Nodyn: Mae'r chwiliad hwn yn ymdrin ag ethol aelodau seneddol. Efallai y bydd isetholiadau cyngor lle rydych chi. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn.

I ddod o hyd i'ch ymgeiswyr cyngor a'ch gorsaf bleidleisio

Dewiswch eich cyfeiriad Ewch

Ychwanegodd: "O'n i'n teimlo bo fi'n boendod i'n ffrindiau – cerdded am bum munud yna 'aw'... rhaid eistedd lawr.

"Dwi ddim yn gallu gwneud be’ o'n i'n arfer gwneud, ddim yn gallu cymdeithasu fel o'n i'n arfer gwneud.

"Dwi'n hoffi garddio ac mae gen i ardd reit fawr – ond erbyn hyn dwi'n gorfod gofyn am help.

"Gofyn help i'r merched. Gofyn help i'n chwaer. Gofyn help aelodau'r teulu i wneud y pethau symlaf – sy'n torri calon rhywun."

'Tasech chi'n filiynydd fyddech chi'n neidio'r ciw'

Mae Owenna wedi bod yn aros pum mlynedd i gael pen-glin newydd, a thair blynedd am lawdriniaethau ar ei dwy glun.

"’Dw i'n rhwystredig iawn, iawn. Tasech chi'n filiynydd neu tasech chi'n credu mewn mynd yn breifat mi fyddech chi'n gallu neidio'r ciw.

“’Dw i'n clywed pobl o ‘nghwmpas i yn dweud, ‘’dw i ddim am aros rhagor - ‘dw i'n mynd yn breifat’. Ydy'r dewis yna ganddo i? Nadi'n digwydd bod.

“Yn un peth o ran egwyddor – ‘dw i ddim yn credu y dylai rhywun neidio'r ciw. Ac yn ail - beth faswn i'n gwneud? Ail-forgeisi’r tŷ?

"Mae'n hala i chi deimlo'n grac, grac iawn. Rwy’ ‘di gweithio trwy'n oes a thalu digon i mewn i'r llywodraeth, a dyma fi yn fy mhumed flwyddyn yn aros am ryw fath o driniaeth."

Claf yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llafur Cymru eu bod wedi wynebu heriau ariannol digynsail ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym yn San Steffan 14 mlynedd yn ôl

Dyw profiadau tebyg ddim yn anghyfarwydd yng Nghymru, lle mae un person ym mhob pump ar restr aros.

Ond ar gyfartaledd mae cleifion yng Nghymru yn aros 46% yn hirach nag yn Lloegr am driniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw.

Ac mae'r bwlch rhwng y rhai sy'n gorfod aros am y cyfnodau hiraf yn fwy trawiadol eto.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae dros 20,600 o achosion lle mae rhywun wedi gorfod aros dros ddwy flynedd.

Yn Lloegr y ffigwr yw 275, mewn gwlad sydd â phoblogaeth llawer mwy.

Mae'r ystadegau a'r cymariaethau hynny wedi cael eu crybwyll gan bleidiau fel y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol, Reform ac eraill i ymosod ar record Llafur ar iechyd, yn y wlad lle mae wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd am chwarter canrif.

Ydy'r feirniadaeth yn deg?

Dywedodd Mark Dayan, dadansoddwr polisi ar gyfer melin drafod iechyd annibynnol Ymddiriedolaeth Nuffield: "O ystyried bod amserodd aros o ddwy flynedd a mwy wedi gostwng i lefel isel iawn yn Lloegr, nid cymaint yn Yr Alban, mae'n ymddangos y byddech chi'n llawer mwy tebygol o aros y cyfnod hwnnw yng Nghymru.

"Ond i ryw raddau, mae hynny rhywfaint yn rhy garedig i Loegr oherwydd dyw Lloegr ddim o reidrwydd wedi gwneud cymaint o ran lleihau maint amseroedd aros yn fwy cyffredinol."

Ychwanegodd: "’Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig dweud hefyd nad rhestrau aros yw'r unig bethau sy'n bwysig yn y system iechyd... a dydw i ddim yn siŵr bod yna arwyddion clir bod ansawdd clinigol gofal yng Nghymru cymaint â hynny'n wahanol neu'n waeth neu'n well.

"A dyna'r ffordd orau mewn gwirionedd i farnu safon system iechyd.”

Mark Dayan
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Dayan nad oes "arwyddion clir bod ansawdd clinigol gofal yng Nghymru cymaint â hynny'n wahanol"

Mae arbenigwyr annibynnol hefyd yn nodi nad yw cymariaethau syml rhwng y ddwy wlad yn ystyried bod poblogaeth Cymru gyfan yn hŷn, yn dlotach ac yn fwy sâl nag ar draws y ffin.

Mae hyn yn golygu baich ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.

Dydyn nhw ddim 'chwaith yn ystyried gwahanol ddewisiadau polisi, er enghraifft blaenoriaethu cleifion ar sail angen clinigol.

Mae hi hefyd yn broblem hirdymor – roedd rhestrau aros yn hir yn bodoli yng Nghymru nid yn unig cyn y pandemig, ond hefyd cyn datganoli.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn awgrymu ar fesurau eraill - fel y targed aros pedair awr mewn adrannau brys mawr - bod perfformiad y gwasanaeth iechyd wedi bod yn well yma nag yn Lloegr am 15 o'r 20 mis diwethaf.

Maen nhw'n nodi hefyd fod 15% yn fwy yn cael ei wario y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru nag yn Lloegr.

Beth yw'r farn ger y ffin?

Efallai mai'r bobl sydd fwyaf ymwybodol o'r gwahaniaethau rhwng y GIG yng Nghymru a Lloegr yw'r rhai sy'n byw yn agos at y ffin.

Yn ôl ystadegau Ionawr 2024, roedd tua 13,500 o bobl sy'n byw yng Nghymru wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr, tra bod tua 21,150 o gleifion sy'n byw yn Lloegr wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru

Gan nad oes ysbytai cyffredinol mawr ym Mhowys a dim canolfan trawma fawr, er enghraifft, yng ngogledd Cymru, mae nifer o bobl yn yr ardaloedd yma yn gyfarwydd â theithio i Loegr

Ond beth yw'r farn ger y ffin am y dadleuon gwleidyddol am gyflwr gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

Elgan Hearn
Disgrifiad o’r llun,

Gellir gweld gwendidau yng ngwasanaeth iechyd Lloegr ar y ffin, medd Elgan Hearn

"Mae nifer o bobl sy'n byw ger y ffin yn derbyn gwasanaethau fel iechyd ac addysg ar y naill ochr a'r llall,” medd Elgan Hearn, gohebydd democratiaeth lleol Powys a Blaenau Gwent.

"’Dw i'n meddwl bod ymwybyddiaeth pobl o i ba raddau mae'r gwasanaeth iechyd yn stryglo yn dibynnu ar le maen nhw'n cael eu newyddion, a'r meddylfryd ydy fod y gwasanaeth iechyd yn stryglo yng Nghymru yn fwy nag yn Lloegr.

"Ond ar y Gororau wyt ti'n gallu gweld fod y gwasanaeth iechyd yn stryglo yn Lloegr hefyd, ac yn gallu gweld sefydliadau iechyd lle mae eu cyllidebau nhw ddegau o filiynau o bunnau yn y coch."

Beth am yr arian?

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwleidyddion yn y Senedd sy'n gyfrifol am iechyd, gan fod y maes wedi'i ddatganoli i Gymru

Mae iechyd, wrth gwrs, yn faes sydd wedi'i ddatganoli – felly pwy bynnag fydd yn fuddugol yn yr etholiad cyffredinol, nid nhw fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ond mae'n debygol y bydd penderfyniadau fydd yn cael eu gwneud gan lywodraeth nesaf y DU ynghylch faint o arian i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr yn dylanwadu ar faint o arian sy'n dod i Gymru ac, o ganlyniad, ar bolisïau iechyd yma yn y dyfodol.

Ond mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn awgrymu bod y rhan fwyaf o'r pleidiau yn tanamcangyfrif maint yr heriau ariannol i'r GIG ar draws y DU.

Dywedodd Mark Dayan: "Dydyn ni ddim wedi dysgu llawer am wariant iechyd yn yr etholiad yma.

"Mae'r pleidiau i gyd wedi bod yn ceisio rhoi cyn lleied o arian ychwanegol ag y gallan nhw tra'n gwneud addewidion eithaf mawr am yr hyn y byddan nhw'n ei gyflawni."

Gwlau mewn coridor ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

'Nôl yng Ngheredigion, mae Owenna Davies yn gobeithio'n arw y caiff ei thrin cyn hir, er mwyn gallu parhau i fwynhau sawl eisteddfod yn y dyfodol.

Ond mae'n poeni’n arw hefyd am ddyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

"Mae yna ddiffyg staff a diffyg amser. Mae'n fyd cymhleth a fydden i ddim am fod yn 'sgidiau unrhyw un sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd," meddai.

“Ond mae'n rhaid i bobl sylweddoli fod cymaint o bobl allan yna sydd mewn poen o fore gwyn tan nos."

Beth yw addewidion y pleidiau?

Dywed Plaid Cymru fod angen system ariannu decach gan San Steffan sy'n adlewyrchu anghenion iechyd poblogaeth Cymru yn well. Mae'r blaid yn addo recriwtio 500 o feddygon teulu, ac yn galw ar Lafur Cymru i ddatgan argyfwng iechyd.

Yn ôl y Ceidwadwyr, byddai'r gwasnaeth iechyd £500m ar ei ennill pe bai Llafur Cymru wedi gwario ar iechyd yn hytrach na pholisi i gynyddu nifer y gwleidyddion yn y Senedd. Maen nhw'n addo ad-dalu ffïoedd dysgu gweithwyr gofal, a sefydlu canolfannau gofal newydd.

Mae cyllideb Cymru £700m yn waeth yn sgil anrhefn y Torïaid, medd Llafur Cymru, a Llywodraeth Cymru wedi wynebu heriau cyllid digynsail dros y 14 mlynedd ddiwethaf. Maen nhw'n blaenoriaethu lleihau amseroedd aros, gan ddweud eu bod yn dymuno'r iechyd a gofal gorau i bobl Cymru.

Byddai Reform yn cyflwyno treth incwm cyfradd sylfaenol sero am dair blynedd i staff iechyd a gofal, medd y blaid, er mwyn gwella lefelau staffio. Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n codi tâl ar gleifion sy'n methu apwyntiad heb ddigon o rybudd.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am i bawb fedru gweld meddyg teulu a deintydd yn hawdd. Byddan nhw'n cyflawni hyn drwy roi £760m yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yma bob blwyddyn.

Pynciau Cysylltiedig

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

NEXT Nafeza : Divisions exposed as Sunday vote gives far-right chance to tighten grip in Germany