world : Dwyn o siopau: Perchennog wedi 'clymu eitemau' er mwyn atal lladron

world : Dwyn o siopau: Perchennog wedi 'clymu eitemau' er mwyn atal lladron
world : Dwyn o siopau: Perchennog wedi 'clymu eitemau' er mwyn atal lladron

Saturday 27 July 2024 08:30 AM

Nafeza 2 world - Mae perchennog siop yn dweud bod achosion o ddwyn o'i siop yn "gwaethygu" a'i bod wedi gorfod cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol i geisio atal lladron.

Ym mis Ebrill, cafodd dau hamper gwerth £50 eu dwyn o gownter siop Julie Ruscitto yn Abertawe.

Mae hi bellach wedi penderfynu clymu rhai eitemau i’r cownter ac wedi rhoi'r gorau i werthu eitemau gwerthfawr.

Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau'n awgrymu bod nifer yr achosion o ddwyn o siopau wedi bron â dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl un undeb llafur, mae Cymru’n wynebu “epidemig” o droseddau o'r fath.

Cafodd y lluniau cylch cyfyng ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Fe dderbyniodd y lleidr ddirwy a gorchymyn i dalu iawndal i’r fusnes.

Mae Julie wedi bod yn rhedeg ei siop anrhegion The Chocolate Box yn Abertawe am 8 mlynedd.

“Daeth y dyn i mewn ar brynhawn dydd Sadwrn. Dywedodd ‘Alright love’, ac yna’n lythrennol gydiodd e yn y ddau hamper oedd gyda’r prosecco.”

“Yna gerddodd e allan y drws ffrynt, caeodd y drws y tu ôl iddo ac yna rhedeg i ffwrdd. Roeddwn i mewn sioc oedd e wedi digwydd mor hawdd.”

Mae Julie a’i chydweithwyr wedi rhoi mesurau mewn lle i ddiogelu eitemau rhag cael eu dwyn, gan gynnwys

“Rydyn ni wedi gorfod rhoi drysau â chlo ar y cwpwrdd canhwyllau oherwydd roedd pobl yn eu dwyn nhw, teledu cylch cyfyng, mae’r drws ffrynt yn agor gyda larwm i roi gwybod i ni pan fydd rhywun yn y siop ac mae gennym ni ddrychau.”

Ychwanegodd, “Mae’n gymaint o drueni bod yn rhaid i ni wneud hynny oherwydd mae mwyafrif ein cwsmeriaid yn anhygoel.”

Mae ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau yn dangos fod lladrata o siopau yng Nghymru wedi cynyddu 34% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd y cynnydd mwyaf yn Ne Cymru lle wnaeth nifer yr achosion bron â dyblu.

Dyma'r ffigyrau uchaf ers 20 mlynedd ar draws Cymru a Lloegr.

Mae Jayne Keeley wedi rhedeg siop dillad babanod, Rainbow, yn ardal Uplands yn Abertawe ers 37 mlynedd.

Mae hi’n dweud bod ganddi “agwedd amddiffynnol” pan ddaw’n fater o ddwyn o siopau.

“Fe ges i lu o ladrata rai blynyddoedd yn ôl felly nawr mae cwsmeriaid yn gorfod canu gloch cyn do di fewn, mae gen i gamerâu cylch cyfyng ac mae shutters lan yn y nos.”

Ychwanegodd, “Dywedodd rhai cwsmeriaid ar y dechrau ‘mae fel mynd i siop gemwaith yn Llundain!’ ond dyna sy’n rhaid i mi ei wneud. Dyma fy newis i fy nghadw i a fy staff yn ddiogel.”

Mae gan Jayne a pherchnogion siopau eraill ar draws ardal Uplands grŵp Whatsapp i hysbysu ei gilydd am unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardal.

Mae Jayne yn dweud bod hyn yn gwneud iddi deimlo'n fwy diogel tra yn y gwaith.

“Nid oes llawer o bobl [staff] yn y siopau bach hyn. Rydyn ni i gyd yn edrych allan am ein gilydd.”

Mae cyfraith bresennol y DU yn golygu bod unrhyw nwyddau sy’n cael eu dwyn gwerth llai na £200 yn golygu bod yr achosion yn annhebygol o gael eu rhoi ar brawf yn Llys y Goron.

Yn ôl Jayne Keeley, “Mae gwir angen rheoleiddio llymach. Mae pobl sy’n dwyn yn meddwl eu bod yn gallu dod bant â’r peth.”

Yn Araith y Brenin, cyflwynodd y Prif Weinidog fesur trosedd newydd i dargedu pobl sy’n dwyn nwyddau gwerth llai na £200.

Dywed Paddy Lillis, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb llafur Usdaw eu bod yn croesawu'r mesur.

“Mae’r cynnydd hwn o 34% mewn dwyn o siopau ledled Cymru yn dystiolaeth bellach ein bod yn wynebu epidemig o droseddau manwerthu, sy’n peri pryder mawr.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Emma Wools:

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 28% mewn troseddau dwyn o siopau dros y chwe mis diwethaf ac yn ystod yr un cyfnod mae’r gyfradd canlyniadau cadarnhaol wedi dyblu o gymharu â’r llynedd.

“Rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gryfhau’r ymateb i’r mater blaenoriaeth hwn ar draws De Cymru.”

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

NEXT Nafeza : Divisions exposed as Sunday vote gives far-right chance to tighten grip in Germany